NancyROBERTSROBERTS - NANCY , . Gorffennaf 15fed 2020 yn frawychus o sydyn trwy ddamwain o 7 Tai'r Felin, Porthmadog, gynt o Llanllyfni, yn 84 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon y diweddar Maldwyn; Mam annwyl Eurwen, Alwyn, Alwen, Dulwyn a'r ddiweddar Anwen; Nain gariadus i bedwar ar ddeg a Hen Nain hoffus i unarddeg; chwaer hoff Ieuan. Gwasanaeth preifat i'r teulu yng Nghapel Gorffwys, Rhes Capel, Criccieth, dydd Mercher Gorffennaf 29ain ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni, am 11 o'r gloch. Gofynnir i bawb wisgo'n lliwgar ac i barchu'r pellter cymdeithasol. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law yr ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Criccieth. (01766)522854.
Keep me informed of updates